Cylchlythyr - Gorffennaf 2025


Bydd Gwenno’n cynnal parti gwrando heno ar ei phedwerydd albwm dair-ieithog ‘Utopia’ – ar noswyl y lansiad! Dewch i ddathlu’r albwm newydd gyda Gwenno a Rhys Edwards (Cynhyrchydd) a chyd-wrando ac ymateb gyda’n gilydd. Byddwn yn rhannu’r ysbrydoliaeth y tu ôl i bob cân a sut wnaethon ni eu creu – ac unrhyw gwestiynau cynhyrchu sydd gennych chi hefyd – dyma gyfle i ni gael sgwrs am y cyfan! 🖤


Dydd Gwener yma, 11 Gorffennaf, bydd Gwenno’n rhyddhau ei halbwm newydd Utopia trwy Heavenly Recordings – albwm hir-ddisgwyliedig sydd eisoes wedi derbyn clod mawr. Yn dilyn y senglau “Dancing On Volcanoes”, “War” ac “Y Gath”, mae Gwenno’n rhannu fideo hudolus ar gyfer prif drac freuddwydiol yr albwm. Mae “Utopia” yn ddarlun o rywun yn byw ei bywyd yng nghysgod lliwiau blinedig Las Vegas. Mae’r stori’n cael ei chanu dros rythm sydd rfel petai Soul o Philly yn mynd â Moon Safari ar daith gyffrous i'r gofod. Ffilmiwyd y fideo gan Claire Marie Bailey yn Las Vegas yn steil y ffilm glasur “Casino” – gallwch ei wylio YMA. 🖤

“Lush, textured and cinematic, this is Gwenno’s best record by some distance.” NARC – 9/10

“An eclectic yet assured record... ‘Dancing On Volcanoes’ is melodic and infectious while tracks like ‘War’ are sparse, moody and dripping in eerie atmosphere.” Uncut – 8/10

“A reflective journey from an artist who proves that her music knows no boundaries.” MusicOMH – 4 stars ****

“On her fourth album, Gwenno channels all of her rich, wild and wonderful life experiences into a triumphant new avenue of songwriting.” Aesthetica


Bydd Gwenno hefyd yn mynd ar daith siopau recordiau fer i hyrwyddo’r record newydd. Dewch i’w gweld yn perfformio set unigol yn y siopau isod – gyda cyfle i chi gael copi wedi’i lofnodi hefyd:

Dydd Sadwrn, 12 Gorffennaf: Jumbo, LEEDS
Dydd Sul, 13 Gorffennaf: Rough Trade, LERPWL
Dydd Llun, 14 Gorffennaf: Rough Trade, BRYSTE
Dydd Mawrth, 15 Gorffennaf: Spillers, CAERDYDD
Dydd Mercher, 16 Gorffennaf: Rough Trade Denmark Street, LLUNDAIN
Dydd Iau, 17 Gorffennaf: Resident, BRIGHTON

Sicrhewch eich tocynnau ar gyfer y perfformiadau hyn trwy'r ddolen isod. 🖤

Next
Next

Newsletter - July 2025